Swyddfa Wrecsam
Gwasanaeth Niwed Personol / Cyfreithwyr Niwed Personol yn Wrecsam / Cyfreithwyr yn siarad Cymraeg
Mae Cyfreithwyr Bartletts yn Wrecsam yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, gan arbenigo mewn hawliadau niwed personol a helpu ennill iawndal i bobl leol.
Gwasanaethau Niwed Personol yn Wrecsam
Mae Bartletts yn gwmni o gyfreithwyr hir sefydlog sydd wedi ennill cryn barch, dros y blynyddoedd, ledled gwledydd Prydain ac mae gan y cwmni swyddfeydd ar hyd a lled Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Mae swyddfa’r cwmni ynghanol tref Wrecsam wedi ymrwymo i wasanaethu’r gymuned leol.
Mae ein swyddfa yn Wrecsam yn cael ei rhedeg gan gyfreithwyr sydd wedi arbenigo mewn ennill iawndal niwed personol ac sy’n darparu cyngor cyfreithiol proffesiynol ac arweiniad ynglyn a gwneud cais am iawndal – ac mi wnawn ein gorau glas i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i chi os ydych chi’n byw yn lleol ac wedi cael eich brifo mewn damwain nad oeddech chi’n gyfrifol amdani.
A ninnau bellach wedi sefydlu ynghanol Wrecsam, rydym wedi ymrwymo ein hunain yn llwyr i boblogaeth leol y dref ac ar draws Gogledd Cymru ac rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i’n cleientiaid. Hefyd mae nifer o’n cyfreithwyr yn hanu o ardal Wrecsam ac felly mae ganddynt wybodaeth lawn nid yn unig o’r gyfraith ond hefyd o’r ardal Ieol.
Gwybodaeth Niwed Personol Cenedlaethol, Ffocws Unigol
Gan ddefnyddio ein profiad eang ym maes hawliadau iawndal – sy’n cynnwys popeth o ddamweiniau gwyliau, damweiniau yn y gwaith, damweiniau ar y ffordd fawr, i hawliadau dibyniaeth a cheisiadau am iawndal yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd-rydym yn medru darparu cyngor cyfreithiol penodol sy’n addas i’ch sefyllfa bersonol chi..
Er mwyn manteisio ar arbenigedd cwmni mawr o gyfreithwyr a hefyd y cyffyrddiad personol a chyfeillgar y gall cwmni lleol ei gynnig, galwch heibio i’n Swyddfa yn Wrecsam heddiw. Mae wedi ei lleoli’n gyfleus yn Stryt Charles, ger Tesco, a gallwch yn hawdd alw i mewn y tro nesaf y byddwch yn a dref, neu does ond rhaid ichi godi’r ffon i siarad yn uniongyrchol ag aelod o’r staff
Rydyn ni’n cynnig cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim ar bob un o’n gwasanaethau damweiniau personol ac mae ein cyfreithwyr yn gweithio ar yr egwyddor ‘Dim Ennill-Dim Ffi ‘-felly, pe baech chi’n penderfynu gwneud cais am iawndal, ni fyddai’n costio dimau i chi a mi wnawn ni ein gorau i ennill yr holl iawndal yr ydych yn ei heuddu.
Os ydych yn hen gleient i Gyfreithwyr Bartletts Wrecsam neu’n gleient newydd, pan fyddwch yn ymweld a’n swyddfa leol, sydd wedi ei lleoli’n hwylus ganolog, byddwch yn siWr o werthfawrogi ein gwybodaeth genedlaedthol o gyfraith niwed personol yn ogystal a’n hagwedd agos-atoch a chyfeillgar – sy’n cynnys ein gwasanaeth ychwanegol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg .
Os ydych am wybod mwy am ein gwasanaethau neu os oes arnoch eisiau gyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim, dewch draw i’n gweld, anfonwch e-bost neu rhowch ganiad i’n swyddfa yn Wrecsam ar 01978 360056